P-04-427
: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg
Geiriad y
ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cyfraith newydd ynghylch y
Gymraeg oherwydd teimlwn nad yw’r cyfreithiau presennol yn
mynd yn ddigon pell o ran diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg. Ar hyn
o bryd, nid oes gofyn i’r sector preifat gael cynlluniau na
pholisïau iaith Gymraeg ac nid oes yn rhaid iddo drin y
Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Er bod gan siaradwyr Cymraeg
fwy o hawliau bellach, mae angen iddynt gael yr hawl i allu
defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar eu bywyd
dyddiol.
Prif
ddeisebydd: Gethin
Kurtis Sugar
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16
Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 93